
Aelodau Partneriaeth Tai Cymru
Mae Partneriaeth Tai Cymru yn bartneriaeth arloesol rhwng cymdeithasau tai yng Nghymru. Ein pwrpas yw cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy ansawdd uchel.
Coastal Housing Group
Cymdeithas ddiwydiannol a darbodus nid-er-elw yw Coastal Housing Group, yn bodoli er lles y gymuned ac yn gweithredu’n Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Sefydlwyd Coastal yn 2008 yn dilyn yr uno rhwng Cymdeithas Dai Abertawe (a ffurfiwyd yn 1978) a Chymdeithas Dai Dewi Sant (a ffurfiwyd yn 1991) gyda’r amcan o adfywio ein hen stoc a chodi tai newydd er mwyn gwella’r gymuned leol a darparu tai fforddiadwy o safon.
Mae gennym 5,500 o eiddo ar rent ac ar werth ac rydym yn arbenigwyr mewn cefnogi pobl hŷn, y rhai hynny sydd angen addasu eu cartrefi a phobl sydd angen cymorth wrth reoli eu tenantiaeth. Er mwyn cwrdd â heriau twf cynaliadwy mae Coastal hefyd wedi datblygu portffolio masnachol cadarn sy’n cyd-fynd ag ethos a gwerthoedd y sefydliad, gan arwain y ffordd gyda rhaglen adfywio amlddefnydd ar gyfer canol y dref/ddinas. O dafarndai a thai bwyta i swyddfeydd uwch-dechnoleg ar gyfer dechrau busnes, mae Coastal yn cynnig dull cynaliadwy a moesol o osod eiddo masnachol gydag ymrwymiad i adfywio trefol. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd y cartrefi a gynigwn, y gwaith adfywio a wnawn yn yr ardaloedd a weithredwn a’r safon ardderchog o wasanaeth a ddarparwn.
Grŵp Cynefin
Sefydlwyd Grŵp Cynefin ym mis Ebrill 2014 trwy uno Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri. Ar y cyd, roedd gan y ddwy gymdeithas fwy na 70 mlynedd o brofiad o ddarparu tai fforddiadwy a datblygu cymunedau ar draws gogledd Cymru.
Rydym yn darparu 4,500 o gartrefi gan gynnwys tai cymdeithasol ar rent, tai rhent canolraddol a llety arbenigol ar gyfer pobl ag anghenion cefnogaeth. Ymysg y gwasanaethau cymunedol eraill a ddarperir o fewn Grŵp Cynefin y mae asiantaethau Gofal a Thrwsio, Hwyluswyr Tai Gwledig a gwasanaethau cefnogaeth i bobl fregus. Mae’r Grŵp yn ei gyfanrwydd yn cyflogi mwy na 200 o bobl.
Mae popeth a wnawn yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth a chynnig mwy na thai.
Hendre Group
Rydym yn un o’r darparwyr tai fforddiadwy a Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth mwyaf yn Ne Ddwyrain Cymru gyda dros 5,700 o dai o fewn ein rheolaeth. Mae ein heiddo’n bennaf wedi’u lleoli yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Mae mwyafrif o’n cartrefi a reolir gan Hafod Housing ar osod. Fodd bynnag, rydym yn cynnig perchentyaeth gan gynnwys Cynlluniau Ymddeol Daliadaeth Hyblyg yn arbennig ar gyfer y rhai dros 55 oed. Mae Hafod Care yn darparu Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth i fwy na 1,000 o bobl fregus gydag anghenion amrywiol.
Pobl Group
Mae Pobl yn grŵp o gwmnïau sy’n cydweithio i ddarparu tai lleol da a gwasanaethau gofal a chefnogaeth. Rydym yn darparu tai o safon uchel sy’n fforddiadwy a hynny mewn cymunedol sy’n ddiogel, yn ddeniadol ac sy’n ffynnu. Rydym yn rheoli dros 16,000 o gartrefi ac rydym yn creu miloedd yn fwy ohonynt, gan wneud cartrefi’n fforddiadwy.
Mae Pobl Group yn ddarparwr gwasanaethau gofal a chefnogaeth blaenllaw i bobl sy’n byw yng Nghymru a de orllewin Lloegr. Rydym hefyd yn darparu amrediad o opsiynau perchentyaeth ar draws De Cymru ac yn gweithredu portffolio masnachol eang gan gynnwys cartrefi nyrsio, swyddfeydd, unedau manwerthu a stiwdios i arlunwyr.
Mae Pobl yn cydweithio â phrifysgolion yn Aberystwyth, Bangor ac Abertawe i ddarparu dros 4,000 o unedau llety myfyrwyr o ansawdd uchel, yn ogystal â rheoli ein llety myfyrwyr ein hunain yng Nghaerdydd ac Abertawe.